Skip to main content
Article

Llwyddiant i Softcat wrth ennill contract i gyflenwi atebion TG integredig i’r sector cyhoeddus yng Nghymru

Softcat news

shutterstock 557559265

Marlow, 29ain o fis Medi 2020 – Mae Softcat wedi llwyddo i ennill lle ar fframwaith caffael Cynhyrchion a Gwasanaethau TG (ii) Cymru gyfan, sydd â gwerth o ryw £300 miliwn, yn ôl yr amcangyfrifon. Y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (GCC) sy’n rheoli’r fframwaith ar ran y sector cyhoeddus yng Nghymru.

 Mae fframwaith caffael Cymru gyfan yn golygu bod gan gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys sefydliadau hyd braich, fynediad rhwydd a chyfleus i atebion TG o ran meddalwedd a chaledwedd. Mae ystod eang o wasanaethau cysylltiedig hefyd yn rhan ohono, ynghyd â dewis ehangach o gyflenwyr sy’n gallu cynnig gwasanaethau wedi’u teilwra yn benodol at anghenion sefydliadau llai yn y sector cyhoeddus a rhai o faint corfforaethol. Mae Softcat wedi cael lle ar Lot 3 (Meddalwedd) a Lot 5 (Atebion).

 Lot 3: Meddalwedd, sydd â gwerth o ryw £90 miliwn. Bydd Softcat yn cyflenwi dewis helaeth o feddalwedd a chynnyrch y cwmwl, gan ddosbarthu a rheoli meddalwedd a gwasanaethau’r cwmwl i sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Dim ond un o blith pum cyflenwr ar y fframwaith hwn yw Softcat.

 Lot 5: Atebion, sydd â gwerth o ryw £40 miliwn. Bydd Softcat yn darparu gwasanaeth atebion TG integredig o ran caledwedd a meddalwedd. Bydd y cytundeb hwn yn golygu bod modd i Softcat ddiwallu holl anghenion TG ei gwsmeriaid, neu i gyfuno sawl elfen i ddod o hyd i un datrysiad.

 Bydd cytundeb fframwaith safonol yn golygu bod gan sefydliadau fynediad i grŵp dethol o gyflenwyr cymeradwy. Fodd bynnag, i sefydliadau llywodraethol, byddai angen cynnal cystadleuaeth o ryw fath o hyd rhwng y cyflenwyr cymeradwy cyn ymrwymo i brynu dim. O dan y fframwaith newydd, fodd bynnag, mae Lot 3 (Meddalwedd) yn caniatáu Dyfarnu Uniongyrchol, sy’n symleiddio ac yn cyflymu’r broses gaffael. Drwy Ddyfarnu Uniongyrchol, caiff sefydliad ddewis cyflenwr y mae’n ymddiried ynddo ar sail ei asesiad mewnol ei hun o’r gwerth am arian a gynigir (a chaniateir i’r asesiad hwnnw fod ar sail manylion achredu’r cyflenwr) heb fod angen cynnal cystadleuaeth bellach.

 Mae Rheolwr Perthnasau Strategol Softcat, Andy Bruen, wedi nodi, “Drwy gael ein dethol unwaith eto i gyflenwi contract TG y GCC, bydd ein cwsmeriaid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, sydd mor bwysig i ni, yn gallu parhau â’r gwasanaeth sydd ganddynt eisoes yn ddi-dor. Mae’r gallu newydd i ddyfarnu’n uniongyrchol yn fendith i’n cwsmeriaid, gan fod modd iddynt gael proses gaffael sy’n fwy cyfleus a chost-effeithlon. Mae’n beth da iawn i ni hefyd, gan y bydd modd i’n cwsmeriaid presennol, sy’n hapus â’r gwasanaeth rydym yn ei roi iddynt, adnewyddu eu contractau yn uniongyrchol ac yn hwylus gyda ni.”

 Mae cefndir cryf gan Softcat wrth gyflenwi atebion meddalwedd a chaledwedd i’r sector cyhoeddus. Nododd Andy Bruen, “Drwy ennill y ddwy lot hyn – yn enwedig yr atebion wedi’u cyfuno – byddwn yn gallu diwallu pob un o bedair blaenoriaeth TG Softcat: Seilwaith Hybrid, Gweithle Digidol, Seibr-ddiogelwch a Deallusrwydd TG.”